Digwyddiadau
Mae Canolfan Seren bellach yn cynnig ac yn cynnal sawl math gwahanol o ddigwyddiadau.
Diwrnodau Blasu
Mae diwrnodau blasu wedi'u cynllunio i roi'r cyfle i chi roi cynnig ar y triniaethau sydd gennym ar gael. Cynigir y diwrnod blasu unwaith y flwyddyn, fel arfer, felly cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am ragor o wybodaeth.
Diwrnodau Elusennol
Rydym yn cynnal digwyddiadau elusennol yn rheolaidd yma yng Nghanolfan Seren, lle mae'r holl elw a wneir ar y diwrnod yn mynd i elusennau lleol. Cododd ein digwyddiad diwethaf £600, ac fe rannwyd yr arian rhwng Elusen Ysbyty Plant Noah’s Ark a'r Cylch Meithrin.
Diwrnodau Lles
Byddwn yn cynnig digwyddiadau lles sy’n para hanner diwrnod a diwrnodau llawn. Bydd dyddiadau ac amseroedd ynghyd â rhagor o wybodaeth i ddilyn.