Triniaethau a Phrisiau
Mae dewis eang o therapïau cyflenwol ar gael yma yng Nghanolfan Seren, yn bennaf ar gyfer oedolion, ond rydym hefyd yn cynnig Reiki i blant a babanod.
Rwy'n angerddol dros broses iachau Reiki ac wedi gweld y gwahaniaeth cadarnhaol anhygoel y mae'r driniaeth hon yn ei chael ar oedolion a phlant. Mae Reiki yn driniaeth mor dyner ac ymlaciol, mae'n bendant yn rhywbeth y teimlaf y gallai pawb elwa arni.
Rhestrir isod y therapïau sydd ar gael i oedolion, ewch i'r dudalen Reiki i Blant a Babanod i gael rhagor o wybodaeth am therapïau ar gyfer plant a babanod.
Mae croeso i chi gysylltu a thrafod triniaethau, rwy'n hapus i gynnig triniaeth sy'n addas i chi. Os na allwch drefnu apwyntiad am unrhyw reswm, byddwn yn gwerthfawrogi o leiaf 24 awr o rybudd i roi digon o amser i wneud trefniadau eraill.
Iachau Reiki
Mae iachau Reiki yn therapi cyfannol a naturiol sydd ddim yn fewnwthiol. Mae'r gair Reiki (yn cael ei ynganu fel Ray-key) yn air Siapaneaidd sy'n golygu egni grym bywyd cyffredinol.
Mae'r egni a ddaw o iachau Reiki yn cyrraedd y person ar lefel gorfforol, feddyliol, emosiynol ac ysbrydol.
Bydd cleientiaid yn parhau i wisgo'u dillad llawn drwy gydol y driniaeth. Mae'r amseroedd a nodir isod yn cynnwys sesiynau ymgynghori a thrafodaethau cyn y driniaeth.
- Manteision
- Mae’n eich galluogi i ymlacio’n ddwfn, lleddfu straen, pryder a thensiwn, gwella iechyd a lles, cydbwyso’ch bywyd a’ch egni
- Pris
- 60 munud- £40
90 munud- £50
Plant - £25
Tylino Swedaidd
Tyliniad bywhaol i helpu lleddfu tensiwn cyhyrol ac ymlacio’n llwyr.
- Manteision
- Mae’n hyrwyddo ymlacio, cynyddu cylchrediad gwaed, lleddfu tensiwn yn y cyhyrau a gwella symudedd.
- Pris
- Cefn, gwddf ac ysgwyddau (30 munud - £20
Cefn, gwddf ac ysgwyddau (60 munud) - £35
Corff llawn (60 munud) - £35
Aromatherapi (30 munud) - £25
Aromatherapi (60 munud) - £40
Tylino gyda Cherrig Poeth
Mwynhewch gynhesrwydd y cerrig poeth hyn sy'n mynd yn ddwfn i'ch cyhyrau.
- Manteision
- Mae’n eich galluogi i ymlacio'n ddwfn, lleddfu tensiwn yn y cyhyrau, cynyddu’ch cylchrediad gwaed ac mae’n gynnes a lliniaro.
- Pris
- Cefn, gwddf ac ysgwyddau (30 munud) - £30
Corff llawn (60 munud) - £45
Tylino Pen Indiaidd
Tylino’r ysgwyddau, cefn uchaf, gwddf, croen pen a’r wyneb (bydd cleientiaid yn parhau i wisgo'u dillad llawn drwy gydol y driniaeth).
- Manteision
- Mae'n hyrwyddo pwyll ac ymlacio, lleddfu meigryn, gofid a straen, ac yn helpu gyda chysgu.
- Pris
- Triniaeth lawn (30 munud) - £25
Talebau a Rhoddion
Cysylltwch os hoffech brynu anrheg neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth.