Croeso i
Ganolfan Seren

Mae Canolfan Seren yn ganolfan therapi cyflenwol sydd wedi'i lleoli ychydig y tu allan i bentref gwledig hardd Bethania yng Ngorllewin Cymru. Mae Bethania tua 15 munud o Aberaeron, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan a thaith o 30 munud yn y car o dref Aberystwyth. Mae Canolfan Seren wedi’i lleoli ychydig uwchlaw'r pentref lle ceir golygfeydd hardd dros arfordir Ceredigion, draw tuag at Fae Aberteifi, sy'n ei wneud yn lleoliad delfrydol i ymlacio.

Sefydlwyd Canolfan Seren i ddarparu adnodd amgen mewn lle diogel, cyfeillgar ac ymlaciol, lle gall oedolion a phlant wella eu lles. Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Chanolfan Seren yn gwybod pa mor angerddol yw Nia am effeithiau cadarnhaol therapïau cyflenwol.

Neilltuwch yr amser i ddarllen mwy am Nia ar y dudalen Amdanom ni page.

Pam dewis Canolfan Seren?

Rydym yn cynnig therapïau cyflenwol i oedolion a phlant a'n ffocws yw creu gwahaniaeth cadarnhaol i'n cleientiaid. Mae’r therapïau sydd ar gael yn cynnwys Reiki / Iachau Sythweledol a Chyfarwyddyd Bywyd a Thylino Pen Indiaidd.

Mae Canolfan Seren wedi gofalu bod mynediad i bobl anabl. Mae ramp mynediad hwylus, digon o le i barcio ar le gwastad ac ystafell wlyb. Rydym hefyd yn falch o ddweud ein bod yn cefnogi busnesau lleol a'r gymuned lle bynnag y bo modd.

Pam dewis Canolfan Seren?

Rydym yn cynnig therapïau cyflenwol i oedolion a phlant ac rydym yn canolbwyntio ar greu gwahaniaeth cadarnhaol i'n cleientiaid. Mae’r therapïau sydd ar gael yn cynnwys Reiki, Tylino Swedaidd, Tylino gyda Cherrig Poeth a Thylino Pen Indiaidd. Ewch i'n tudalen triniaethau a phrisiau am ragor o wybodaeth am ein therapïau.

Mae Canolfan Seren wedi gofalu bod mynediad i bobl anabl. Mae ramp mynediad hwylus, digon o le i barcio ar le gwastad ac ystafell wlyb. Rydym hefyd yn falch o ddweud ein bod yn cefnogi busnesau lleol a'r gymuned lle bynnag y bo modd.

Mae Nia yw wych, gwnaeth i mi deimlo'n gyfforddus ac wedi ymlacio. Gwasanaeth rhagorol, mae hi wedi fy helpu gymaint. Nia ti’n werth y byd!
Cefais anrheg annisgwyl gan fy ngŵr oedd wedi trefnu fy mod yn cael sesiwn dylino ôl cael babi yn ddiweddar. Roedd Nia yn anhygoel. Helpodd i gael gwared ar bob poen a gwayw a threuliais awr braf yn ymlacio heb y babi! Roedd hi mor gyfeillgar a phroffesiynol yr un pryd. Yn bendant byddwn yn argymell Canolfan Seren.
Ni allaf argymell Nia yng Nghanolfan Seren ddigon. Lleoliad anhygoel lle cewch y driniaeth fwyaf addysgiadol a hyfryd sy’n eich tawelu. Roeddwn i'n teimlo fel petai pwysau enfawr wedi cael ei godi oddi ar fy ysgwyddau a gadewais yn teimlo’n dawelach, yn gryfach ac yn hapusach. Mae Nia yn therapydd cyfeillgar, profiadol a charedig. Mae hi'n rhoi'r cyfle gorau i chi deimlo’n well. Diolch Nia.

Canolfan Seren

Rhos Y Garth, Llanon, SY23 5NN

FHT