Triniaethau a Phrisiau

Rydym yn cynnig therapïau cyflenwol yma yng Nghanolfan Seren, i oedolion yn bennaf, ond gallwn hefyd gynnig therapïau ar gyfer plant a babanod.

Rwy'n angerddol yn Reiki / iachau sythweledol ac wedi gweld y gwahaniaeth cadarnhaol anhygoel y mae'r driniaeth hon wedi'i chael ar oedolion a phlant. Mae'r triniaethau yma'n addfwyn ac yn ymlaciol, maen nhw'n rhywbeth rwy’n teimlo y gallai pawb elwa ohono.

Y therapï isod sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu a thrafod y triniaeth.

Reiki / Iachau Sythweledol a Chyfarwyddyd Bywyd

Gall sesiwn iacháu / hyfforddi bywyd bara o 60 min i 90min.

Byddai gwaith paratoi eisoes wedi'i roi ar waith cyn i chi gyrraedd gyda'r bwriad ar gyfer iacháu'r peth gorau oll i chi.

Wrth gyrraedd, byddwn yn dechrau gydag ymgynghoriad, yn trafod unrhyw bryderon neu ofynion sydd gennych. Yn dilyn yr ymgynghoriad, os ydym yn teimlo'r angen, gyda'n gilydd gallwn roi rhai strategaethau ymdopi ar waith, rwy'n galw'r rhain yn offerynnau newydd ar gyfer eich blwch offer!

Pan fyddwn yn barod i ddechrau'r sesiwn, gallwch ymlacio ar y soffa, yn eich dillad, gyda’ch esgidiau oddi ar (dewisol) ac os ydych yn dymuno, gallwch hyd yn oed ddewis cael blanced gyfforddus drosoch. Ar ôl i chi setlo a’ch bod chi’n teimlo’n hamddenol, gallwch siarad drwy eich proses iachau neu os yw'n well gennych ymlacio dwysach gallwch gau eich llygaid hefyd.

Bydd iachau yn eich cefnogi yn gorfforol, yn emosiynol, yn feddyliol ac yn ysbrydol. Mae pobl yn dewis iacháu i helpu gyda phethau fel trawma, gorbryder, straen, iselder, bwlio, galar / colled, salwch o unrhyw fath, cymorth / rhwystrau beichiogi, cwsg a llawer mwy.

Rwyf wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol gan gleientiaid yn dilyn eu sesiynau mae cleientiaid yn aml yn dweud wrthyf eu bod nhw'n teimlo'n llawer ysgafnach na phan gyrhaeddon nhw. Fy amcan a'm bwriad yw bod fy nghleientiaid i gyd yn gadael yn teimlo'n well na phan gyrhaeddon nhw.

Pe na bai unrhyw un yn gallu fy ngweld yn y cnawd, rwyf hefyd yn gallu cynnig sesiynau iacháu a hyfforddi pell dros y ffôn ac ar-lein. Cysylltwch â mi’n uniongyrchol am ragor o fanylion.

Pris

60 munud - £50
75 munud - £60
90 munud - £70
Plant - £50

Os na allwch ddod ir apwyniad am unrhyw reswm, byddwn yn ddiolchgar am o leiaf 24 awr o rybudd i roi digon o amser i wneud trefniadau eraill.

Talebau a Rhoddion

Rydym yn cynnig amrywiaeth o roddion a thalebau hyfryd y gellir eu prynu ar gyfer ffrindiau a theulu. Mae pob taleb yn cael ei lapio mewn blwch anrhegion wedi'i deilwra gyda neges bersonol. Mae talebau'n ddilys am 6 mis ar ôl y dyddiad prynu a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw rai o’r therapïau rydym yn eu cynnig. Yr isafswm ar gyfer talebau yw £10.

Cysylltwch os hoffech brynu anrheg neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Canolfan Seren

Rhos Y Garth, Llanon, SY23 5NN

FHT