Reiki ar gyfer Babanod a Phlant

Mae hyn yn cynnig ystod eang o fuddion i blant yn ogystal ag oedolion. Rydw i wedi rhoi triniaethau i lawer o blant, o fabanod i blant bach yr holl ffordd drwodd i bobl ifanc yn eu harddegau / oedolion ifanc. Mae rhieni yn aml yn holi ar ran eu plant ar ôl gweld manteision iacháu drostynt eu hunain.

Babanod

Gall iachau helpu babanod mewn sawl ffordd. Dyma rai o'r manteision:

  • Lleddfu babanod â cholig
  • Lleddfu rhwymedd
  • Helpu nhw i gysgu ac ymdawelu
  • Lleddfu’r boen o dorri dannedd
  • Helpu’r baban a’r rhiant i ymlacio
  • Helpu gyda thrawma, e.e. genedigaeth anodd
Image
Image

Plant bach

Gall yr holl fuddion sydd wedi'u rhestru ar gyfer babanod hefyd fod yn gymwys i blant bach. Fodd bynnag, gall plant bach hefyd dderbyn buddion ychwanegol gan Iachau, megis:

  • Lleihau stranciau tymer
  • Gallu eu helpu i ganolbwyntio
  • Gallu gwella gallu’r corff i iachau

Plant

Rhai manteision ychwanegol i blant:

  • Cymorth gyda phryder, ofnau a gofidiau
  • Cymorth i ddelio â bwlio yn y gorffennol neu os maent yn cael eu bwlio ar hyn o bryd
  • Ymlacio i wella cwsg
  • Gwella hunan-barch a hyder
  • Pwyllo ac yn hyrwyddo cydbwysedd
  • Cymorth gyda digwyddiadau trawmatig, e.e. galar, colled neu ysgariad
  • Cefnogi plant sy’n hynod o sensitif
  • Gall helpu gydag awtistiaeth, ADHD ac anghenion ychwanegol eraill
Image

Canolfan Seren

Rhos Y Garth, Llanon, SY23 5NN

FHT